CynnwysCynllunio i fethu yw methu â chynllunio – yn enwedig pan ddaw hi at ymgysylltu â’r cyhoedd. Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich helpu i gynllunio strategaeth ymgysylltu, fel y gwyddoch eich bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i gysylltu’n effeithiol. Byddwch yn defnyddio dulliau a gweithgareddau cyfranogol amrywiol i gynllunio strategaeth ymgysylltu gyda chynllun gweithredu cysylltiedig. Bydd y cwrs yn defnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru fel sail i gynllunio’ch strategaeth. Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn ategu’r cwrs modiwlar 2-3 diwrnod, Ennyn Diddordeb y Cyhoedd[link]ond mae’n addas hefyd fel cwrs ar ei ben ei hun. |