Beth sydd wedi digwydd ers wythnos diwethaf? Cyflwynodd Theresa May ‘Gynllun Newydd’ o’r enw ‘Seeking Common Ground in Parliament’. Cafodd y cynllun hwn ei wrthwynebu’n chwyrn sydd wedi:
- Arwain at ei chyhoeddiad y bydd hi’n ymddiswyddo ddydd Gwener 7 Mehefin. Mae disgwyl i’r ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ddechrau’r wythnos wedyn (dyma eglurhad o sut y bydd y ras yn gweithio).
- Oedi cyhoeddi’r Bil Cytundeb Ymadael drafft. Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bwriadu’n wreiddiol ei wthio i’r wythnos sy’n dechrau ar 3 Mehefin, ond yn sgil ansefydlogrwydd y sefyllfa ar hyn o bryd ni fyddai oedi pellach yn peri syndod.
- Cynyddu’r tebygolrwydd o adael yr UE heb y cytundeb ymadael.
Mae crynodeb o Gynllun Newydd Theresa May ar gael yma. Efallai fod llawer o hyn i’w weld yn gyfarwydd… Ac mae hynny’n ddealladwy gan nad yw llawer ohono’n newydd. Y prif beth a ddaliodd sylw oedd yr 2il Refferendwm. Yn y cynnig hwn, pe bai’r Bil Cytundeb Ymadael yn cael ei dderbyn fel yr awgrymir gan y Prif Weinidog, byddai hynny’n rhoi pleidlais i ASau i benderfynu a ddylid cynnal refferendwm cyn y gellir cadarnhau’r Cytundeb Ymadael. Ni fyddai derbyn y Bil Cytundeb Ymadael sy’n cynnwys y ddarpariaeth hon yn sicrhau refferendwm – ni fyddai ond yn sicrhau pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin i benderfynu a ddylid cynnal un. Ond does dim sicrwydd o gwbl y bydd hyn yn parhau’n bosibilrwydd ar ôl y ras am yr arweinyddiaeth. What’s happened since last week? Theresa May presented a ‘New Plan’ entitled ‘Seeking Common Ground in Parliament’. This triggered significant backlash which has:
- Led to her announcing her registration on Friday 7 June. The Conservative leadership contest is expected to start the following week (explainer on how this works here).
- Delayed publication of the draft Withdrawal Agreement Bill (WAB). The UK Government had initially planned to push it to week of 3 June, but the instability of the situation is such at this point that further delays would not be surprising.
- Increased the likelihood of leaving the EU without the withdrawal agreement (a ‘no-deal’ Brexit).
A summary of Theresa May’s New Plan can be found here. A lot of this might sound familiar… Understandably so as much of it isn’t new. The standout was the 2nd Referendum. Under this proposal, if the WAB were accepted as suggested by the Prime Minister, this would give MP’s a vote on whether to hold a confirmatory referendum before the Withdrawal Agreement can be ratified. Accepting the WAB in this form would not guarantee a referendum however – only a vote in the Commons on whether to hold one. Though it is highly uncertain that this will remain on the table after the leadership contest. |